Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol

Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol
Enghraifft o'r canlynolswydd Edit this on Wikidata
MathYsgrifennydd Gwladol Edit this on Wikidata
Daeth i ben8 Mai 2007 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu12 Mehefin 2003 Edit this on Wikidata
OlynyddYsgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Yr Arglwydd Falconer, unig deiliad y swydd.

Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol yn swydd Cabinet Llywodraeth Prydain, a grëwyd yn 2003. Trosglwyddwyd rhai o swyddogaethau'r Arglwydd Ganghellor i'r Ysgrifennydd Gwladol newydd. Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd swyddogaethau pellach i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol, swydd o fewn y llywodraeth a deiliwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog.

Unig ddeiliad y swydd oedd yr Arglwydd Falconer a oedd hefyd yn parhau i wasanaethu fel Arglwydd Ganghellor ar yr un pryd.

Crëwyd y swydd yn ffurfiol trwy gymeradwyaeth Gorchymyn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol 2003 (OS 2003 Rhif 1887). Daeth y swydd i ben ar 9 Mai 2007, a throsglwyddwyd ei holl gyfrifoldebau i adran newydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. Deiliad cyntaf y swydd newydd oedd yr Arglwydd Falconer hefyd.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne